Ein Tîm / Our Team
Heather Thomas
Perchennog y Feithrinfa
Heather Thomas ydw i a fi yw perchennog Meithrinfa Cywion Bach. Rwy’n gyn-athrawes gynradd brofiadol ac mae gen i gymhwyster Arweinydd Ysgol Goedwig Lefel 3 yn ogystal â phrentisiaeth Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant a Gwaith Chwarae. Rwy’n wraig fferm i Gareth ac mae gennym dri o blant.
​
Rydw i wrth fy modd yn yr awyr agored ac yn credu’n gryf bod awyr iach a gweithgarwch corfforol yn bwysig i ffitrwydd, lles, iechyd a datblygiad plant, yn ogystal ag oedolion! Mae fy mreuddwyd o ddechrau Meithrinfa cyfrwng Cymraeg gyda’r ffocws ar yr amgylchfyd naturiol wedi ei gwireddu, o’r diwedd! Mae hi wedi bod yn her fawr ond rwy’n ymfalchïo yn yr hyn sydd wedi ei gyflawni yn yr hen ysgol ym mhentref Idole.
Edrychaf ymlaen at eich croesawu!
Nursery
Owner
I am Heather Thomas and I am the owner of Cywion Bach Nursery. I am an experienced primary school teacher with a Level 3 Forest School Leader qualification as well as a Level 3 apprenticeship in Children's Care, Learning and Development and Playwork.
I'm Gareth's farm wife and we have three children. I love the outdoors and feel that fresh air and physical activity are important to the fitness, well being, health and development of children as well as adults!
​
My dream of starting a Welsh-medium Nursery with a focus on the natural environment has finally been realized! It has been a big challenge but I am proud of what has been achieved at the old school in Idole village.
I look forward to welcoming you!